I blant, chwarae yw un o agweddau pwysicaf eu bywyd.
Mae chwarae’n ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Trwy chwarae, bydd plant yn datblygu gwytnwch a hyblygrwydd fydd yn cyfrannu at les corfforol ac emosiynol. Mae chwarae yn bwysig i bob plentyn waeth beth fo’u namau neu ymddygiad.
Mae gan blant yr hawl i chwarae fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r Confensiwn yn cynnwys rhestr o’r hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc yn y byd.
Fel oedolion mae cyfrifoldeb arnom i ddarparu amser, lle a rhyddid i blant chwarae. Mae’r gwyliau haf yn gyfle gwych i ni gynnig cyfleoedd chwarae tu allan i’n plant.
Adnoddau
Cynghorion defnyddiol i rieni gefnogi chwarae plant
Adnodd defnyddiol i rieni gefnogi chwarae plant, yn cynnwys gwybodaeth am fuddiannau corfforol a meddylion chwarae, cynghorion ar gyfer magu plant mewn modd chwareus, yn ogystal â delio â phryderon rhieni am chwarae tu allan.
Awgrymiadau anhygoel - gwneud amser i chwarae
Rydym yn eiriol dros fabwysiadu agwedd rad tuag at wneud y gorau o amser rhydd plant – rhoddwch amser iddynt chwarae. Rydym wedi tynnu ynghyd ein awgrymiadau anhygoel ar gyfer gwneud amser i blant chwarae. Daw chwarae gyda ffrindiau â llu o fuddiannau cadarnhaol i blant – felly oes angen inni dorri’r banc i lanw eu bywydau â gweithgareddau eraill mewn gwirionedd? Dywed plant eu bod eisiau mwy o amser a mannau da i chwarae’r tu allan gyda’u ffrindiau.
Cynghorion ar gyfer cefnogi plant i chwarae allan yn hyderus
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gefnogi a pharatoi ein plant i chwarae allan yn hyderus yn eu cymuned. Efallai y bydd yr awgrymiadau yma’n ddefnyddiol er mwyn annog rhieni a gofalwyr a chymunedau lleol i gefnogi plant i chwarae allan yn hyderus.
Awgrymiadau anhygoel: amser sgrin a chwarae digidol
Mae nifer ohonom yn ei chael yn anodd canfod yr ateb i’r heriau sy’n ymwneud ag amser sgrin a sut i gefnogi plant a phobl ifanc i ymwneud a rhyngweithio gyda chwarae digidol mewn modd buddiol a chytbwys. Mae gennym, fel oedolion, rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi plant mewn byd digidol. I gefnogi agwedd gytbwys tuag at amser sgrin a chwarae digidol rydym wedi datblygu awgrymiadau anhygoel.
Pam fod chwarae’n bwysig a’r hyn y gall pob un ohonom ei wneud yn ei gylch – mae’n edrych ar bwysigrwydd chwarae y tu allan a dod i gysylltiad â byd natur i bob plentyn a’u teuluoedd, ac mae’n cynnwys awgrymiadau ar gyfer cefnogi plant i chwarae’n hyderus y tu allan.
Chwarae a’r blynyddoedd cynnar: genedigaeth i saith oed – mae’n archwilio beth yn union yw chwarae a’i bwysigrwydd i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar (o enedigaeth i saith mlwydd oed). Mae hefyd yn archwilio pwysigrwydd rolau oedolion, eiriolaeth a hawl y plentyn i chwarae.
Hybu gweithgarwch corfforol trwy chwarae'r tu allan mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar - mae'n archwilio sut fydd chwarae’n cyfrannu at les corfforol plant a sut y gall ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ddarparu caniatâd, amser a lle, yn ogystal â sicrhau bod deunyddiau ar gael, ar gyfer chwarae. Mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ar gyfer bod yn synhwyrol ynghylch iechyd a diogelwch.
Chwarae: iechyd a lles – mae’n darparu gwybodaeth pam fod chwarae'n hanfodol i iechyd a lles plant ac mae'n archwilio ffyrdd i ymateb i angen plant am fwy o amser a lle ar gyfer chwarae'n rhydd.
Chwarae: iechyd meddwl a lles – mae’n egluro yn gryno pwysigrwydd chwarae ar gyfer datblygiad yr ymennydd a iechyd meddwl, yn ogystal â archwilio sut mae chwarae yn cyfrannu at le emosiynol plant.
Beth sy’n digwydd yn eich ardal
Mae mannau a chyfleoedd i chwarae ledled gogledd Cymru dros gwyliau’r haf – mwy o wybodaeth am beth sy’n digwydd yn eich ardal:
Conwy Gwynedd Sir Ddinbych Sir y Fflint Wrecsam Ynys Môn
Diwrnod Chwarae
Mae Diwrnod chwarae yn ddathliad blynyddol yn y DU o hawl plant i chwarae. Rydym yn galw arnoch chi i ymuno â ni i ddathlu bod:
- Chwarae yn rhad ac am ddim
- Chwarae yn un o hawliau plentyn
- Chwarae yn gynhwysol
- Chwarae yn cefnogi iechyd a lles corfforol ac emosiynol
- Chwarae yn cefnogi parchu a gwerthfawrogi’r amgylchedd naturiol
- Chwarae yn hybu datblygiad a dysg.
Ledled Cymru a gweddill y DU bydd miloedd o blant a’u teuluoedd yn mynd allan i chwarae mewn digwyddiadau sydd wedi eu trefnu yn lleol – o bartion yn yr ardd i ddathliadau mawr mewn parciau a chanol trefi.
Hawl i chwarae
Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi plant i ddysgu am eu hawliau fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Dywed Erthygl 31 o’r Confensiwn bod gan bob plentyn yr hawl i chwarae. Gallwch argraffu’r adnoddau hyn a’u rhannu â phlant a’u teuluoedd.
Cerdyn post hawl i chwarae
Hawl i chwarae – ar gyfer ei liwio
Poster A4 hawl i chwarae
Poster A3 hawl i chwarae