Trwy Gymru gyfan, mae cynnydd yn cael ei wneud gan awdurdodau lleol a’u partneriaid i ymateb i Ddyletswyddau Digonolrwydd Chwarae arloesol Llywodraeth Cymru.
Mae'r astudiaethau achos yn cyflwyno datrysiadau dyfeisgar i gefnogi awdurdodau lleol i sicrhau cyfleoedd chwarae digonol yn unol â’r Materion a ddynodwyd yng nghanllawiau statudol Cymru – Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae.
Adolygwyd yr astudiaethau achos yn erbyn ystod o griteria, yn cynnwys i ba raddau y mae’r enghraifft:
- Yn adeiladu ar agweddau, partneriaethau ac arfer cyfredol
- Yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a Sylw Cyffredinol 17 ar Erthygl 31
- Yn gweithio’n unol ag egwyddorion gweithio partneriaeth a chydweithredu
- Yn mwyafu adnoddau
- Wedi ei datblygu a’i gweithredu trwy ymgynghori, cyfranogi ac ymgysylltu.
Astudiaethau achos
Bro Morgannwg - Prynu Diwrnod o Chwarae
Casnewydd - Datblygu asesu risg-budd
Casnewydd - Ymgynghoriad meysydd chwarae
Conwy - Cydraddoldeb a pheidio gwahaniaethu
Conwy - Strwythur ar gyfer datblygu a digonolrwydd chwarae
Merthyr Tudful - Ymgynghoriad strategaeth mannau agored
Sir Benfro - Tîm Chwarae Rhieni Ystâd Mount
Wrecsam - Asesiad digonolrwydd chwarae cyntaf
Wrecsam - Prosiect Amser Gwyrdd