Yn 2014 a 2015 mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi cyllid i awdurdodau lleol i ddatblygu cyfleoedd chwarae yng Nghymru. Yn 2012 - 2013 dosbarthodd Llywodraeth Cymru gyllid i awdurdodau lleol i gwblhau'r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae.
2015
Ar 23 Chwefror 2015 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru:
Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wedi clustnodi cyllid gwerth £1.5 miliwn ychwanegol ar gyfer creu cyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru.
Bydd £1.5 miliwn yn cael ei ddosbarthu irhwng y cynghorau lleol er mwyn iddynt wella ardaloedd chwarae ar hyd y wlad. Bydd modd defnyddio’r arian i wella mynediad ar gyfer plant anabl, gosod arwyddion a fydd yn annog plant i chwarae ar y stryd a phrynu adnoddau newydd megis siglen rhaff, ffrâm ddringo a chyfarpar symudol. Bydd hynny’n sicrhau bod plant mewn ardaloedd difreintiedig yn cael mwy o gyfleoedd i chwarae.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i basio cyfraith sy’n sicrhau bod plant ledled y wlad yn cael cyfle i chwarae. Gwnaed hynny drwy osod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu mannau addas i blant chwarae a chael hwyl yn yr awyr agored. ac ardaloedd chwarae sy’n addas.
Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd Lesley Griffiths:
“Mae chwarae yn rhan hanfodol o fagwraeth a datblygiad plant. Mae eu hiechyd, eu hapusrwydd a’u lles yn elwa ar hynny.
“Felly, er gwaethaf y wasgfa ariannol sydd ar ein cyllidebau ar hyn o bryd, rydym yn benderfynol o sicrhau bod gan blant Cymru leoedd diogel a hwylus i chwarae ynddynt gyda’u ffrindiau. Bydd y £1.5 miliwn ychwanegol hwn yn helpu Awdurdodau Lleol ledled Cymru i wella’r mannau chwarae sydd ar gael a rhoi mwy o gyfleoedd i blant i chwarae yn eu hardaloedd.
“Rydym wrthi’n gwneud ein gorau i wella safonau byw pobl a helpu ein plant i gael bywydau iach. Rydw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd ar y mater hwn. Am hynny Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu ar chwarae.”
Cyllid fesul awdurdod lleol:
- Ynys Môn: £36,026
- Gwynedd: £63,108
- Conwy: £53,496
- Sir Ddinbych: £48,204
- Sir y Fflint: £77,561
- Wrecsam: £70,301
- Ceredigion: £33,268
- Sir Benfro: £64,246
- Sir Gâr: £94,814
- Abertawe: £106,138
- Castell-nedd Port Talbot: £64,308
- Pen-y-bont ar Ogwr: £66,575
- Bro Morgannwg: £63,103
- Caerdydd: £155,770
- Rhondda Cynon Taf: £119,835
- Caerffili: £92,755
- Blaenau Gwent: £33,539
- Torfaen: £43,841
- Sir Fynwy: £43,547
- Casnewydd: £73,120
- Powys: £67,518
- Merthyr Tudful: £28,927
Cymru: £1,500,000
2014
Ar 3 Chwefror 2014 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru:
Amser chwarae i blant Cymru gyda £1.25 miliwn o gyllid newydd
Heddiw mae Llywodraeth Cymru wedi lansio pecyn cyllid gwerth dros filiwn o bunnau i ddatblygu cyfleoedd chwarae i blant ledled Cymru.
Bydd cynghorau’n gallu defnyddio’r £1.25 miliwn ar gyfer o fesurau, gan gynnwys gwella ardaloedd chwarae drwy osod cyfarpar newydd fel siglenni rhaff a strwythurau pren. Bydd yr arian yn cyfrannu at brynu offer chwarae i blant sy’n byw mewn cymunedau dan anfantais; ei gwneud yn haws i blant anabl chwarae; gwella goleuadau ardaloedd chwarae ac annog rhagor o chwarae yn y stryd.
Wrth gyhoeddi’r dyraniad cyllid hwn, dywedodd y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Vaughan Gething:
'Nid gormodedd yw mynnu cael lleoedd diogel a difyr i’n plant chwarae ynddynt. Mae chwarae yn elfen hanfodol o fagwraeth a datblygiad plentyn. Bydd y cyllid hwn yn helpu awdurdodau lleol ar draws Cymru i wella a datblygu cyfleusterau gyda’r nod o gynnig mwy o gyfleoedd chwarae i blant lleol.
'Er gwaetha’r wasgfa sydd ar ein cyllidebau, rydym yn benderfynol o barhau i gefnogi cyfleoedd chwarae. Rydym wedi ymrwymo i wneud cymaint ag y gallwn i wella safon byw cymunedau a helpu ein plant i fyw bywydau iach.'
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i fabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. O dan Erthygl 31 o’r siarter hwnnw mae gan blant hawl i ymlacio a chwarae. Mae chwarae yn elfen bwysig o fywydau plant ac yn eu gwneud yn iachach a hapusach, gan osod sylfaen da iddynt gyflawni eu llawn botensial fel oedolion.
Cyllid fesul awdurdod lleol:
- Ynys Môn: £29,862
- Gwynedd: £52,650
- Conwy: £44,715
- Sir Ddinbych: £39,992
- Sir y Fflint: £65,490
- Wrecsam: £58,238
- Ceredigion: £27,853
- Sir Benfro: £53,777
- Sir Gâr: £79,004
- Abertawe: £87,926
- Castell-nedd Port Talbot: £53,898
- Pen-y-bont ar Ogwr: £55,122
- Bro Morgannwg: £52,993
- Caerdydd: £128,359
- Rhondda Cynon Taf: £99,419
- Caerffili: £77,558
- Blaenau Gwent: £28,028
- Torfaen: £36,705
- Sir Fynwy: £36,980
- Casnewydd: £60,676
- Powys: £56,854
- Merthyr Tudful: £23,901
Cymru: £1,250,000
2012 - 2013
Dosbarthodd Llywodraeth Cymru y symiau canlynol o gyllid i awdurdodau lleol i gwblhau'r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae:
- Ynys Môn: £18,542
- Gwynedd: £21,314
- Conwy: £20,390
- Sir Ddinbych: £20,236
- Sir y fflint: £22,700
- Wrecsam: £21,314
- Ceredigion: £18,696
- Sir Benfro: £21,314
- Sir Gâr: £24,548
- Abertawe: £26,088
- Castell-nedd Port Talbot: £22,084
- Pen-y-bont ar Ogwr: £22,084
- Bro Morgannwg: £21,622
- Caerdydd: £30,554
- Rhondda Cynon Taf: £27,628
- Caerffili: £24,702
- Blaenau Gwent: £18,542
- Torfaen: £19,928
- Sir Fynwy: £19,158
- Casnewydd: £22,392
- Powys: £21,930
- Merthyr Tudful: £18,080
Cymru £48,3846