Mae amgylchedd chwarae cyfoethog yn amgylchedd ble y gall plant a phobl ifanc wneud ystod eang o ddewisiadau; ble y ceir llawer o bosibiliadau iddynt allu dyfeisio ac ymestyn eu chwarae eu hunain.
Gall hyn fod yn unrhyw fodd neu sefyllfa, unai dan do neu yn yr awyr agored, a gall gynnwys:
- ardaloedd chwarae lleol
- parciau
- canolfannau chwarae
- caeau chwarae antur wedi eu staffio
- gofal y tu allan i'r ysgol
- darpariaeth chwarae symudol
- cylchoedd chwarae a meithrinfeydd
- ysgolion.
Mae'n amgylchedd corfforol amrywiol, diddorol a llawn ysbrydoliaeth sy'n mwyafu'r potensial ar gyfer cymdeithasu, creadigedd, dyfeisgarwch a her. Mae'n le ble y bydd plant yn teimlo'n rhydd i chwarae yn eu ffordd eu hunain, ac ar eu telerau eu hunain.
Mae darpariaeth chwarae o safon yn cynnig cyfle i bob plentyn a pherson ifanc i ryngweithio'n rhydd gan brofi'r canlynol:
- plant a phobl ifanc eraill - gyda'r dewis i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill, i drafod, cydweithio, anghytuno, a datrys anghydfod
- y byd naturiol - y tywydd, y tymhorau, llwyni, coed, planhigion, pryfetach, anifeiliaid, mwd
- rhannau rhydd - deunyddiau naturiol a synthetig y gellir eu trin, eu symud a'u haddasu, adeiladu a chwalu
- yr elfennau naturiol - daear, awyr, tân a dŵr
- her a mentro - ar lefel corfforol ac emosiynol
- chwarae gyda hunaniaeth - chwarae rôl a gwisgo i fyny
- symud - rhedeg, neidio, dringo, balansio, rholio
- sgarmes - chwarae ymladd
- y synhwyrau - sŵn, blas, ansawdd, arogl, golwg
- teimladau - poen, llawenydd, hyder, ofn, dicter, bodlondeb, diflastod, diddordeb, hapusrwydd, galar, gwrthodiad, derbyniad, tristwch, balchder, rhwystredigaeth