
Chwarae Cymru yw’r elusen genedlaethol dros chwarae plant.
Mae Chwarae Cymru'n elusen annibynnol a ariennir gan Lywodraeth Cymru - Cymru yw ardal ein cylch gwaith elusennol.
Rydym yn gweithio i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch angen a hawl plant a phobl ifanc i chwarae ac i hyrwyddo arfer dda ar bob lefel o'r broses wneud penderfyniadau ac ym mhobman ble y gallai plant chwarae. Rydym yn cynnig cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am ddarparu ar gyfer chwarae plant, fel y bydd Cymru un diwrnod yn wlad ble y byddwn yn cydnabod ac yn darparu'n ddigonol ar gyfer anghenion chwarae pob plentyn.
Ein gweledigaeth
Dyfodol ble caiff chwarae ei barchu am ei bwysigrwydd allweddol i blentyndod.
Ein cennad
Ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar a phledio achos hawl pob plentyn i chwarae.
Mae ein gwaith yn cynnwys:
- Polisi: i weithio gydag unigolion, sefydliadau a rhwydweithiau i hysbysu datblygiad polisi a materion sy’n ymwneud â chwarae plant yng Nghymru
- Gwasanaeth gwybodaeth: i hybu gwerth chwarae plant yng Nghymru trwy ddarparu gwybodaeth gyfredol ac amserol i’n rhanddeiliaid
- Cyngor a chefnogaeth: i ddarparu gwybodaeth arbenigol ynghylch pob mater sy’n ymwneud â, ac sy’n effeithio ar chwarae plant
- Datblygu’r gweithlu: i gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol y gweithluoedd chwarae a gwaith chwarae yng Nghymru
Adroddiad effaith a adroddiadau blynyddol Chwarae Cymru
Mae Chwarae Cymru yn elusen cofrestredig, rhif 1068926 ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 3507258. Cofrestrwyd yng Nghymru.