Adrodd am bryderon ynghylch trosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae wrth Gyrff Dyfarnu.
Mae Chwarae Cymru a Chyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) wedi derbyn nifer o bryderon sy’n ymwneud â phrofiadau dysgwyr / cyflogwyr gyda chanolfannau asesu sy’n trosglwyddo cymwysterau gwaith chwarae.
Mae’r mathau o faterion a godwyd, yn benodol, yn cynnwys:
- Aseswyr sydd â diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n benodol i waith chwarae
- Aseswyr sydd â diffyg gwybodaeth neu brofiad o waith chwarae mynediad agored
- Aseswyr gofal plant yn asesu gwaith chwarae, a hynny heb brofiad o waith chwarae
- Dysgwyr yn derbyn dim, neu fawr ddim, hyfforddiant neu’n cael eu cynghori i ‘Googlo’ er mwyn dysgu am theori gwaith chwarae
- Tiwtoriaid / aseswyr sydd â dim, neu fawr ddim, gwybodaeth am Yr Egwyddorion Gwaith Chwarae
- Dysgu am gysyniadau gwaith chwarae sy’n hen neu wedi dyddio (fel SPICE a Gwerthoedd a Thybiaethau Gwaith Chwarae) heb eu gosod yng nghyd-destun damcaniaethau cyfoes
- Tueddiad i ganolbwyntio ar greu portffolio yn hytrach na dysgu.
Mae Cyrff Dyfarnu’n gyfrifol am sicrhau ansawdd trosglwyddo ac asesu cymwysterau yn eu canolfannau ac, o ganlyniad, dylent ymchwilio i unrhyw bryderon a godir ac yna eich hysbysu am y canlyniad.
Mae Chwarae Cymru wedi ceisio cyngor gan Lywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru; o ganlyniad, rydym wedi drafftio esiampl o lythyr ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a mudiadau i’w cynorthwyo i leisio eu pryderon yn uniongyrchol i’r Corff Dyfarnu.
Mae gan bob Corff Dyfarnu adran adborth neu gwynion ar eu gwefan sy’n nodi i ble y dylid anfon llythyrau.
Os na dderbyniwch ymateb neu os derbyniwch ymateb annigonol, fe’ch cynghorir i gysylltu â Cymwysterau Cymru wnaiff, fel rheoleiddiwr cymwysterau Cymru, ymchwilio ymhellach.
Os hoffech fwy o gyngor neu gymorth ar y mater hwn, mae croeso ichi ein e-bostio.