Anelir y Dyfarniad mewn Trosglwyddo Hyfforddiant Gwaith Chwarae Dynamig (ADDaPT) at diwtoriaid gweithwyr chwarae galwedigaethol gymwys sy’n meddu ar gymhwyster hyfforddi eisoes. Bwriedir iddo gefnogi’r lefel uchel o drosglwyddo hyfforddiant yr ydym yn ei ddisgwyl o diwtoriaid gwaith chwarae yng Nghymru.
Trosglwyddir y cymhwyster Lefel 3 yma dros dridiau ac mae’n ofynnol ar gyfer hyfforddwyr gwaith chwarae newydd sy’n gweithio gydag Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales. Cynhelir cyrsiau pan fyddwn wedi dynodi digon o ddysgwyr, felly i gofrestru eich diddordeb yn ADDaPT e-bostiwch ein Swyddog Datblygu’r Gweithlu.
I gael eich derbyn ar y cwrs ADDaPT bydd rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster dysgu fel y Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (AET) neu Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS). Yn ogystal, bydd disgwyl i ddysgwyr arddangos cymhwysedd galwedigaethol mewn gwaith chwarae, gall hyn fod trwy brofiad yn y sector neu trwy gwblhau’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae.
Mae’r cwrs yma’n cynnwys elfennau ar:
- Deall pwysigrwydd ateb amrywiaeth o anghenion a dewisiadau dysgu
- Deall amrywiaeth o ddulliau chwareus a chyfranogol ar gyfer dysgu gwaith chwarae
- Dylunio rhaglen o ddysgu ar gyfer gwaith chwarae
- Myfyrio ar arfer personol.