Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Croeso i Chwarae Cymru

Eiriol dros chwarae plant

Yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru.

Chwarae Ffilm

Amdanom ni

Rydym yn eiriol dros angen a hawl pob plentyn i chwarae

Ein gweledigaeth yw dyfodol ble caiff chwarae ei werthfawrogi yng Nghymru am ei fod yn hanfodol i blentyndod iach a hapus. Gwlad ble mae plant yn rhydd i archwilio, darganfod, datblygu a thyfu drwy chwarae.

 

Rydym yn ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar trwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.

Chwarae

Chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant. Mae plant yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnwn beth sydd o bwys iddyn nhw, bydd plant yn cyfeirio’n gyson at chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.

Gwaith Chwarae

Mae gwaith chwarae’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn sicrhau mai chwarae yw’r prif ffocws pan fydd oedolion a phlant yn treulio amser gyda’i gilydd. Mae gwaith chwarae’n alwedigaeth a gydnabyddir sydd â chyfres o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd.

Polisi a deddfwriaeth chwarae

Mae chwarae’n rhan bwysig o fywydau plant ac arddegwyr ac mae’n digwydd ble bynnag maen nhw’n treulio amser. Fel eiriolwr chwarae, mae Chwarae Cymru yn cyfrannu at ystod o ddadleuon a phenderfyniadau polisi – gan gynnwys ar hawliau plant, iechyd a lles a datblygu’r gweithlu.

Llyfrgell adnoddau

Mae ein casgliad o adnoddau yn cynyddu ymwybyddiaeth am bwysigrwydd chwarae ar gyfer plant ac arddegwyr. Maent hefyd yn cynnig canllawiau arfer da ar amrywiaeth o bynciau am ddarparu cyfleoedd i chwarae.

Digwyddiadau i ddod

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Chwarae Cymru - a rhai a drefnir gan fudiadau eraill

Gweld popeth

Digwyddiad Chwarae Cymru

Annog magu plant yn chwareus: cyflwyniad ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda theuluoedd Annog magu plant yn chwareus: cyflwyniad ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio gyda theuluoedd

Lleoliad

Ar-lein

Dyddiad ac amser

30/04/2024 / 9:00am - 10:00am neu 4:00pm - 5:00pm

Pris

Am ddim

Gweminar rhad ac am ddim i weithwyr proffesiynol a theuluoedd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, a ddarperir gan Chwarae Cymru gyda Thîm Iechyd Cyhoeddus Caerdydd a Bro Morgannwg

Gweld

Digwyddiad Chwarae Cymru

Digonolrwydd cyfleoedd chwarae – deall eich rôl o ran y ddyletswydd statudol Digonolrwydd cyfleoedd chwarae – deall eich rôl o ran y ddyletswydd statudol

Lleoliad

Stadiwm rygbi Parc Eirias, Bae Colwyn

Dyddiad ac amser

15-05-2024 / 9:30am - 4:00pm

Pris

£0

Cynhadledd bartneriaeth ar gyfer cydweithwyr yng Ngogledd Cymru, a drosglwyddir gan Chwarae Cymru gyda swyddogion digonolrwydd chwarae awdurdod lleol

Gweld

Digwyddiad Chwarae Cymru

Fforwm Gweithwyr Chwarae 2024 Fforwm Gweithwyr Chwarae 2024

Lleoliad

Y Glôb Helyg, Rhaeadr, Powys

Dyddiad ac amser

03-04/07/2024 /

Pris

£55

Digwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol.

Gweld
Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors