Newyddion

Rhestr Bostio

Yn ôl i Newyddion

Project Wild Thing - dangosiadau am ddim

27-02-2018

Mae The Wild Network yn cynnig 250 dangosiad am ddim yn y DU o'r ffilm Project Wild Thing i ddathlu bod dros filiwn o bobl wedi gwylio'r ffilm ar draws y byd.

Cafodd y ffilm ei rhyddhau yn 2013 ac mae'n dilyn ymgais y cyfarwyddwr, David Bond i annog ei blant i dreulio mwy o amser tu allan. Dechreuodd y ffilm The Wild Network – mudiad i annog mwy o blant i chwarae tu allan ac ailgysylltu â byd natur.

I gymryd rhan, bydd angen i chi gwblhau ffurflen a dod o hyd i leoliad i ddangos y ffilm yn eich cymuned. Bydd y 250 ffurflen cyntaf sy'n cael eu cwblhau yn cael y cyfle i gynnal dangosiad am ddim o Project Wild Thing.

Rhagor o wybodaeth