Newyddion

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant a gwaith chwarae yn rheolaidd

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.

Yn ôl i Newyddion

‘Children and Young People Now Awards 2019’

12-04-2019

Mae’r enwebiadau nawr ar agor ar gyfer ‘Children and Young People Now Awards’ eleni, sy’n cynnwys categori ar gyfer chwarae plant.

Bydd ‘The Play Award’ yn cael ei wobrwyo i’r fenter sydd wedi gwneud y mwyaf i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae yn rhydd, mwynhau eu plentyndod a chyfrannu at eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol. Bydd y beirniaid yn edrych am waith sydd wedi galluogi plant i ddilyn eu syniadau a diddordebau eu hunain, yn eu ffordd eu hunain.

Mae’r gwobrau yn arddangos dysg ac ymarfer gorau ledled y DU trwy gydnabod timau ac unigolion o’r sector breifat, gyhoeddus a gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, yn ogystal a’u teuluoedd.

Mae’r categoriau eraill yn cynnwys:

  • ‘The Early Years Award’
  • ‘Children and Young People’s Champion’
  • ‘The Learning Award’.

 

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau: 28 Mehefin 2019

Rhagor o wybodaeth