Newyddion

Cofrestru i dderbyn y diweddaraf ar chwarae plant a gwaith chwarae yn rheolaidd

Communication Preferences

Please state how you would prefer to be contacted.
To view our privacy policy, click here.

Yn ôl i Newyddion

Mynediad am ddim i rifyn o gyfnodolyn Children, Youth and Environments

05-11-2018

Mae'r International Play Association (IPA) yn cynnig mynediad am ddim i'r rhifyn diweddaraf o gyfnodolyn Children, Youth and Environment tan 15 Tachwedd 2018. 

Mae’r rhifyn ‘Unleashing the Power of Play: Research from the International Play Association 20th Triennial Conference’ yn cynnwys adolygiad gan Mary Ann Ritoul o becyn cymorth Access to Play for Children in Situations of Crisis gan IPA. Fe’i ysgrifennwyd gan Gyfarwyddwraig Cynorthwyol Chwarae Cymru, Marianne Mannello a Swyddog Datblygu’r Gweithlu, Martin King-Sheard.

Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys yr erthyglau ac adroddiadau canlynol: 

  • ‘From Policy to Play Provision: Universal Design and the Challenges of Inclusive Play’
    ysgrifennwyd gan Helen Lynch, Alice Moore a Maria Prellwitz
  • ‘Early Childhood Educators' Perceptions of Play and Inquiry on a Nature Playscape’
    ysgrifennwyd gan Sue Schlembach, Leslie Kochanowski, Rhonda Douglas Brown a Victoria Carr
  • 'Street Play in the Revitalization of Low-Birthrate Communities: Playborhood Street Tokyo’ ysgrifennwyd gan Hitoshi Shimamura.
     

Adolygwyd nifer o gyhoeddiadau eraill yn y rhifyn hwn hefyd, gan gynnwys:

  • Cities Alive: Designing for Urban Childhoods (Arup) – adolygwyd gan Adrian Voce
  • Under the Same Sky: Children's Rights and the Environment (IPA, Children’s Parliament [Yr Alban], Children and Young People’s Commissioner Scotland, a Terre des Hommes) – adolygwyd gan Michelle Templeton.
     

Rhagor o wybodaeth