Dyfarniad mewn Trosglwyddo Hyfforddiant Gwaith Chwarae Dynamig (ADDaPT) - gogledd Cymru
Aelodau £0 | Ddim yn aelod £0
Dyddiad: 07-05-2019 | Lleoliad: Wrecsam |
Dyddiad Gorffen: 21-05-2019 | Trefnydd: Addysg Oedolion Cymru a Chwarae Cymru |
* DYDDIADAU NEWYDD *
7 Mai, 8 Mai a 21 Mai 2019
Cyfle i astudio am gymhwyster hyfforddiant gwaith chwarae newydd a chyffrous a gynhelir dros dri diwrnod, a hynny AM DDIM.
Mae’r Dyfarniad mewn Trosglwyddo Hyfforddiant Gwaith Chwarae Dynamig (ADDaPT) yn rhoi cyfle i ddysgwyr archwilio technegau rhyngweithiol a chwareus i’w defnyddio wrth drosglwyddo hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae. Bwriedir iddo gefnogi’r lefel uchel o drosglwyddiad hyfforddiant yr ydym yn ei ddisgwyl o diwtoriaid gwaith chwarae yng Nghymru.
Er mwyn cael eu derbyn ar y cwrs ADDaPT bydd rhaid i ddysgwyr feddu ar gymhwyster dysgu, fel y Dyfarniad mewn Addysg a Hyfforddiant (AET) neu Paratoi i Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes (PTLLS). Yn ogystal, bydd disgwyl i ddysgwyr arddangos cymhwysedd galwedigaethol mewn gwaith chwarae, trwy brofiad yn y sector neu trwy gwblhau’r Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP).
Mae’r cwrs yn cynnwys elfennau ar:
- Ddeall pwysigrwydd ymateb i amrywiaeth o anghenion a dewisiadau dysgu
- Deall amrywiaeth o ddulliau cyfranogol a chwareus ar gyfer addysgu gwaith chwarae
- Dylunio rhaglen o ddysgu ar gyfer gwaith chwarae
- Myfyrio ar arfer personol.
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich lle: 13 Ebrill 2019