Cyhoeddiadau

Cefnogwch ni

  • YR HAWL CYNTAF - PROSESAU DYMUNOL
  • Image
    Yr Hawl Cyntaf - prosesau dymunol

    Mae Yr Hawl Cyntaf - prosesau dymunol yn darparu fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae lefel uwch. Fe’i cyhoeddwyd yn 2002 fel ‘dilyniant’ i ddogfen Yr Hawl Cyntaf … fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae – ac ni fwriedir iddo gael ei ddefnyddio fel cyhoeddiad annibynnol.

    Fel mae’r teitl yn nodi, mae’r cyhoeddiad hwn yn canolbwyntio ar y fframwaith uwch ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae tra bo’r cyntaf yn cynnwys y fframweithiau sylfaenol a chanolradd. Dylid defnyddio Yr Hawl Cyntaf - prosesau dymunol ar y cyd â Yr Hawl Cyntaf … fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae.

    Mae Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol wedi ei rannu’n bum prif adran sy’n cwmpasu:

    • Ansawdd mewn ymarfer gwaith chwarae – cyflwyniad
    • Y fframwaith uwch – beth yw asesiad a gwaith chwarae o ansawdd uwch a pham ydyn ni ei angen
    • Y broses – mecanweithiau chwarae a moddau ymyrryd; beth ydym yn ei asesu, graddio a’r angen am fyfyrio cywir a gonest
    • Mecanweithiau chwarae – gweithdrefnau, templedi, diffiniadau ac esboniadau
    • Moddau ymyrryd – gweithdrefnau, templedi, diffiniadau ac esboniadau.

     

    Mae’r fframwaith uwch wedi ei ddylunio i alluogi gweithwyr chwarae profiadol i osod gwybodaeth ac arfer o dan y chwyddwydr – i fod yn fwy myfyriol a dadansoddol o’u gwybodaeth a’u hymarfer. Mae’n anelu i gynorthwyo gweithwyr chwarae profiadol i lunio barn ynghylch effaith ac effeithlonrwydd eu hymarfer.

    Gofynnodd Yr Hawl Cyntaf … fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae inni ‘Ydw i’n gwneud yn iawn?’ tra bo Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol yn gofyn inni ‘Beth ydw i’n ei wneud yn iawn?’

    Er iddo gael ei ysgrifennu 15 mlynedd yn ôl a bod y byd wedi symud ymlaen a bod ein dealltwriaeth o chwarae wedi ehangu, mae Yr Hawl Cyntaf … fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae ac Yr Hawl Cyntaf – prosesau dymunol yn dal i fod yn arfau effeithiol sy’n darparu model all ein helpu i asesu ein gwaith chwarae.

    Mae Yr Hawl Cyntaf - prosesau dymunol ar gael i'w brynu yn siop ar-lein Chwarae Cymru

Cefnogwch ni