Cyhoeddiadau

Cefnogwch ni

  • YR HAWL CYNTAF...
  • Image
    Yr Hawl Cyntaf ... fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae

    'Yr hawl i chwarae yw hawl cyntaf plentyn gan y gymuned. Chwarae yw hyfforddiant natur ar gyfer bywyd. Ni all unrhyw gymuned dresmasu ar yr hawl hwnnw heb wneud niwed parhaol i feddyliau a chyrff ei dinasyddion.' David Lloyd George

    Nod cyhoeddiad Chwarae Cymru Yr Hawl Cyntaf ... fframwaith ar gyfer asesu ansawdd gwaith chwarae yw galluogi gweithwyr chwarae, ac unrhyw oedolion eraill sydd â diddordeb mewn chwarae plant, i dadansoddi, trwy arsylwi a myfyrio, yr amgylcheddau chwarae y maent yn eu gweithredu. Mae'n cynnig fframwaith ar gyfer asesu ansawdd yr hyn sy'n cael ei ddarparu a'i brofi.

    Mae'n caniatáu i ddefnyddwyr archwilio:

    • natur yr hyn y mae plant yn ei wneud
    • rolau datblygiadol a therapiwtig posibl chwarae
    • rolau a swyddogaethau'r gweithiwr chwarae (neu oedolyn arall)
    • y ffyrdd mwyaf priodol o ymyrryd yn y broses chwarae
    • iaith a chysyniadau gwaith chwarae


    Bwriedir i Yr Hawl Cyntaf ... gyflenwi gweithdrefnau sicrhau ansawdd eraill.

    Lawrlwytho fframweithiau Yr Hawl Cyntaf

    Mae Yr Hawl Cyntaf ar gael i'w brynu yn siop arlein Chwarae Cymru  

Cefnogwch ni