Yr elusen genedlaethol dros chwarae plant yng Nghymru.
Ein gweledigaeth yw dyfodol ble caiff chwarae ei werthfawrogi yng Nghymru am ei fod yn hanfodol i blentyndod iach a hapus. Gwlad ble mae plant yn rhydd i archwilio, darganfod, datblygu a thyfu drwy chwarae.
Rydym yn ymgyrchu dros Gymru chwarae-gyfeillgar trwy arwain gyda bwriad, cydweithio gyda chynwysoldeb, addysgu gyda brwdfrydedd, a chefnogi gyda sensitifrwydd.
Chwarae
Chwarae yw un o agweddau pwysicaf bywydau plant. Mae plant yn gwerthfawrogi amser, rhyddid a mannau o safon i chwarae. Pan ofynnwn beth sydd o bwys iddyn nhw, bydd plant yn cyfeirio’n gyson at chwarae a chwrdd â’u ffrindiau.
Gwaith Chwarae
Mae gwaith chwarae’n canolbwyntio ar y plentyn ac yn sicrhau mai chwarae yw’r prif ffocws pan fydd oedolion a phlant yn treulio amser gyda’i gilydd. Mae gwaith chwarae’n alwedigaeth a gydnabyddir sydd â chyfres o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd.
Polisi a deddfwriaeth chwarae
Mae chwarae’n rhan bwysig o fywydau plant ac arddegwyr ac mae’n digwydd ble bynnag maen nhw’n treulio amser. Fel eiriolwr chwarae, mae Chwarae Cymru yn cyfrannu at ystod o ddadleuon a phenderfyniadau polisi – gan gynnwys ar hawliau plant, iechyd a lles a datblygu’r gweithlu.
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau Chwarae Cymru - a rhai a drefnir gan fudiadau eraill
Gweld popethDigwyddiad Chwarae Cymru
Digonolrwydd cyfleoedd chwarae – deall eich rôl o ran y ddyletswydd statudolLleoliad
Stadiwm rygbi Parc Eirias, Bae Colwyn
Dyddiad ac amser
15-05-2024 / 9:30am - 4:00pm
Pris
£0
Cynhadledd bartneriaeth ar gyfer cydweithwyr yng Ngogledd Cymru, a drosglwyddir gan Chwarae Cymru gyda swyddogion digonolrwydd chwarae awdurdod lleol
Digwyddiad Chwarae Cymru
Fforwm Gweithwyr Chwarae 2024Lleoliad
Y Glôb Helyg, Rhaeadr, Powys
Dyddiad ac amser
03-04/07/2024 /
Pris
£55
Digwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol.